Dwi wedi cymryd rhan yn llawer o ddigwyddiadau yn y Steddfod - lansio ymgyrch darllen gyda Nigel Owens (llun o Nigel), lansio pecyn dysgwyr amgueddfa cenedlaethol Blaenafon gyda ei awdur Cennard Davies (Cynhongwr yn Nhreorci), lansio Canolfan Hywel Teifi gyda'i fab Huw Edwards, hyrwyddo llenyddiaeth Cymreig yn Saesneg gyda Daniel Williams a Dai Smith a dwi wedi anghofio rhai eraill. Dwi wedi cwrdd a Susan Robeson hefyd - pan o'n i dirpwy gweinidog dros adfywio, cefnogais i syniad i ddod a hi i'r Steddfod.
Y prynhawn'ma, dwi wedi siarad i'r cyfarfod Cymdeithas yr Iaith. Mae Vaughan Roderick wedi sylw am hynny.
Comments